Archif | Mered RSS feed for this section

Pafiliwn Bont, llwyddiant Iwerddon a’r Diwygiad

8 Tach

Un o’r pethau mwyaf braf ynglyn a chyfweld a Dr. Meredydd Evans oedd y ffaith nad oedd rhaid imi esgus bod yn arbenigwr gan taw ef yw’r arbenigwr yn y maes.

Ges ateb llawn a deallus ynglyn a’r Diwygiad a’r effaith ddiwylliannol arnom fel cenedl.

Ar fin gyrru trwy’r glaw i’r Gorllewin Gwyllt nawr, wela i chi ym Mhafilwn y Bont…

hwyl yr Wyl!

Hanes Cerdd Dant

6 Tach

Does neb yn y byd i gyd yn grwn sy’n well i ofyn ynglyn a hanes cerddoriaeth draddodiadol o Gymru na Dr. Meredydd Evans…

Finne’n gofyn y cwestiwn yn benodedig am yr Wyl Cerdd Dant yn Ystrad Fflur,
a ma phob dim arall fel mae’r ymadrodd yn son…yn hanes..!

#MERED – Capel, cymdeithas a Cherdd Dant

5 Tach

Recordiwyd y CD ‘Bethel’ gan Gai Toms yn hen gapel y pentref.

Dyna sail sgwrs egniol efo Dr. Meredydd Evans sy’n cynnwys
ei farn ar berfformiad o addasiad Bethan Bryn o waith Dylan Thomas!

Recordiwyd yn ystod haf 2013 yng nghartref Mered,
felly diolch unwaith eto iddo ef a’i deulu am y croeso –
a’r pizza!

Wyn W

Dr. Meredydd Evans ar Gelfyddyd a Cherdd Dant

4 Tach

Pleser digymysg adolygu ac ail-wrando i’r darn clywedol hwn, sy’n cynnwys hanes datblygiad Cerdd Dant yn ystod yr ugeinfed ganrif a’i uchafbwyntiau o Wyl Cerdd Dant Dyffryn Conwy yn 2012.

Edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld a chlywed Cerdd Dant o’r unfed ganrif ar hugain yn Ystrad Fflur 2013 Ddydd Sadwrn!

Can diolch unwaith yn rhagor i Mered a Phyllis am y croeso,
gobeithio’n wir cafon nhw noson wrth eu boddau yn y Bae wrth
wylio a gwrando ar gyngerdd agoriadol WOMEX eleni

[ gweler erthygl Non Tudur yma http://www.golwg360.com/celfyddydau/cerddoriaeth/125662-campwaith-cerys ]

Dr Meredydd Evans ar dwristiaeth ddiwylliannol

26 Medi

Dyma farn Dr. Meredydd Evans ar swyddogaeth gweinidog y Gymraeg yng nghyd-destun diwylliant, yr iaith a cherddoriaeth draddodiadol Cymru.

“Does yna ddim trefn, does neb yn gweithio ar y peth.”

Can diolch i Mered a Phyllis am y croeso unwaith eto.

Wyn Williams

Prosiect Pan Cymru Prifysgol Aberystwyth a Chwmni Teledu Telesgop.

Cedwir pob hawl.

Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

y Cyfryngau Creadigol, Ymarferol

3 Awst

Iawn.

Gall hyn fod yn gymhleth, ond yn ei grynswth, darn o waith ydy’r blog yma i gyflawni 3 peth

I osod y llwyfan (IS , Mi wn, mi wn) dyma’r gan 3 Peth wedi perfformio gan Carreg Lafar er mwyn creu emffasis :

Amcanion :

1) hybu cerddoriaeth Cerdd Dant

2) hybu’r Ŵyl yn ardal Ystrad Fflur ac felly’r ardal a’r gymdogaeth yno.

3) Darn o waith gogyfer a fy M.A. yn y Cyfryngau Creadigol Ymarferol ym Mhrifysgol Aberystwyth gen i, D.W.Williams.

Digon hapus i ddefnyddio’r talfyriad yna achos dyna glywch chi can mlynedd o heddi (gobeithio);

“Ia, yr hen D.W., ia wir triodd ei orau do ond mi ddaeth Cerdd Dant i ben yn 2014 druan a fo..byw mewn cae ydy o wan, yn ei wely cryogenic…”

Ta waeth, I digress os dywed y Sais.

MERED

Roeddwn i’n ffresh allan o’r colag pan yn gynhyrchydd radio yn Aberystwyth, ac yn un a oedd yn ddigon lwcus i gynhyrchu rhaglen ble yr oedd Dr. Meredydd Evans yn serennu fwy nag unwaith , ac o leiaf teirgwaith yn ôl Archif Sgrin a Sain y Llyfrgell Genedlaethol le dwi wedi treulio sawl awr fach bleserus yn ail-wrando i VHS (ia , VHS!) o recordiadau gan Dan Griffiths o’r hyn a oedd yn cael ei ddarlledu ar “Am Ddeg”, slot gan wirfoddolwyr a hanes diddorol bob un.
Megis Emyr Llywelyn.

Hoffen i i ddweud y gwir defnyddio’r cyfrwng yma i ymddiheuro yn gyhoeddus i Emyr Llew am fod mor hy yn ystod recordio’r rhaglenni gyda Mered.

Sai’n cofio’r union eiriau, ond fodd bynnag roedd Mered yn gofyn imi a oeddwn i’n gyfrifol am gynhyrchu holl allbwn y slot Am Ddeg, ac yn hytrach nac esbonio bod y diweddar John Dudley (God bless his Irish music loving soul) yn hunan-gynhyrchu, wnes i ddweud rhyw ymadrodd ddigon ffraeth ac yn weddol typical o fy ‘early manhood’ i awgrymu fy mod i wedi cael fy rhwymo i’r ddesg neu rywbeth yn debyg.

Eithaf doniol i ddweud y gwir, hyd yn oed o edrych yn ôl pymtheg mlynedd , ond ta waeth mi gymrodd Emyr mod i rywsut yn awgrymu nad oeddwn i am fod yna.

Mae’r gwrthwyneb yn wir wrth gwrs, roeddwn i’n dwli bod yna yn gwrando ar ddau gawr o’n diwylliant yn sgwrsio mond mod i heb ddatblygu’r sgiliau cymdeithasol i allu dweud hynny.

A nawr, yn hen ddyn o 37 , dwi’n hapus i gyffesu bod y rhaglen
ddogfen gydag Emyr wedi gwneud imi grio mwy nag unwaith.

Felly os welwch chi Emyr, dwedwch wrtho fy mod i’n sori a fy mod
i wedi mwynhau ail-wrando i’r rhaglenni gymaint â o’n i’n mwynhau ar y pryd (lot); a bod Archif Sgrin a Sain yn hapus – mi gredaf i – imi gael copïau o’r cyfweliadau wedi eu rhoi ar CD at sylw Mered a fynte.

Mae hi wedi cymryd pymtheg mlynedd a mwy imi ddod o hyd i waith mor ddiddorol a phwysig a’r gwaith o gefnogi a chynorthwyo gwirfoddolwyr Radio Ceredigion, felly mewn hynny o beth dwi’n bles iawn.

Yn naturiol dwi di plesio gymaint gan fod y profiad o gwrdd â Dr. Meredydd Evans yn y ganrif ddiwethaf wedi fy nghaniatai i gael sgwrs efo fe eto – wedi i’r caredig Bethan Bryn rhoi mi yn ôl mewn cyswllt ag ef ( mae Bethan eisoes wedi helpu gyda phodcast ar fan hyn a mwy hefyd).

Mae pawb yng Ngheredigion o’r un farn – ni fyddai gwneud y prosiect yma o geisio hybu cerddoriaeth draddodiadol ein gwlad o werth heb siarad â Mered.

Felly, felly y bu.

A chyn imi anghofio, er mor hapus fyddwn i fel dyn bron yn ei lawn dwf o unrhyw ddiddordeb gan BBC Cymru yn hyn oll, dwi wedi gofyn i Dr. Meredydd Evans yn benodol, ac nid oes hawl gan BBC Radio Cymru ddarlledu unrhyw ddarn o unrhyw ddeunydd clywedol sydd ar y blog yma, o’r herwydd rhesymau eglur i bawb sy’n darllen y cyfryngau yng Nghymru heddiw.

Efallai mod i’n rhoi cerddoriaeth Sonic Youth/Mike Patton-aidd i gyfeilio Mered a chredu fod hynny rhywsut yn ‘OK’, ond nid ydw i’n barod i roi geiriau yn ei geg, ac nid yw ef yn barod i’r audio yma cael ei ddarlledu gan y BBC.

Hynny wedi ei chofio, mond nawr i gyfeirio at y ffaith nad chyfeiliant go iawn mo hon – darn o waith cerddorol a pharatowyd tuag at ein sioe #Cyffes yw’r gitâr, ymdrech gwan iawn i efelychu mawreddog-rwydd Kanye West yw’r tarobethau anobeithiol, a ffidil gradd 4 (neu 3 falle? Pryd bynnag gwnaeth pwysau cymdeithasol homoffobig ysgol rygbi taro’r meddwl) fi yw’r sŵn cath-aidd yna.

Felly, cyfalaw yn yr ystyr nad yw’n berchen i’r alaw,, a diolch – o finne os nad o’r gynulleidfa i Theatr Arad Goch a staff Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu am y cyfle i wneud hyn.

Mynychwch yr Ŵyl Cerdd Dant fel mynychwch yr Eisteddfod, ac yn ogystal â’r WAV sydd yma, bydd yna gyfweliad call gyda Dr Evans i ddilyn yn gyflym iawn yr wythnos hon…bydd yn ysgytwad i’r sin dwi’n credu…mandad am weithredu dwi’n cred-i

A dyna ni.

Mond drafft yw hyn i ddweud y gwir, felly o! mi ydych yn lwcus os y chi wedi cael ei darllen.

Cyn bo hir felly, datganiad egniol Mered (odi , mae ‘n edrych yn dda iawn cofiwch) yn herio’r sefydliadau cerddorol a thwristiaeth i gydweithio…os am glywed mwy am y pwnc yna mi fydd #tarorpost Ddydd Mawrth i fyny hyd diwedd D.Llun – diddorol ac yn yr un maes.

I orffen felly, esboniaf mod i wedi chwarae’r isod i Mered, ac mi ddwedodd

“Methu cael fy mhitsh oeddet ti ia?”

Digon teg, a gan fod y fideo yn mynd i fod ar gael i hyrwyddo’r Ŵyl, wrth reswm ma’r audio yma’n rhan o hynny.

On dewch , dyna ddigon o ymddiheurio; amdani.

Mered yn trafod ei waith gyda Gai Toms ar “Bethel”

13 Gor

Dr. Meredydd Evans yn son am ei gydwaith efo Gai Toms; “Bethel”.

Pleser trafod y cywaith a f’ysbrydolodd ail-gysylltu a Mered wedi pymtheg mlynedd a mwy i ni gwrdd ddiwethaf!

WW

Dolen ‘Souncloud’ i glywed Mered yn datgan ei farn ar y defnydd o’r gair ‘gwerin’!

29 Meh

Dr Meredydd Evans (Mered i’w g yfoedion wrth gwrs) yn trafod gwir ystyr y gair gwerin, ac yn datgelu ei fod wrth ei fodd yn gwrando i Radio Cymru!

Mered a’r gair Gwerin